Ray Gravell & Ffrindiau Ymddiriedolaeth Elusennol

Am yr Ymddiriedolaeth

Gwasgarwyd hadau cyntaf yr ymddiriedolaeth gan Ray ei hunan.

Roedd Ray a dau o’i gydchwaraewyr yn nhîm y Llewod a Llanelli - Phil Bennett a Derek Quinnell - eisoes wedi penderfynu sefydlu ‘The Three Lions Charitable Trust’ er mwyn cefnogi elusennau yn siroedd y gorllewin. Yn dilyn marwolaeth Ray (31 Hydref, 2007) sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Ray Gravell a Ffrindiau yn swyddogol, gyda’r nod deublyg o godi arian i achosion da ac unigolion haeddiannol yng Ngorllewin Cymru a chadw cof un o fawrion y genedl yn fyw.

Ac felly, ganwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Ray Gravell a Ffrindiau ym mis Tachwedd 2007 ac yn y 12 mis cyntaf, casglwyd nifer o gefnogwyr a noddwyr at ei gilydd gan yr ymddiriedolwyr a’r pwyllgor gweithredol er mwyn gosod sylfeini cryf ar gyfer dechrau’r gwaith.

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau codi arian yn ystod y ddwy flynedd gyntaf gan gynnwys diwrnodau golff, diwrnodau i’r merched (a brofodd yn llwyddiannus iawn), marathon, teithiau beic, dringo mynyddoedd a dau Ginio Mawreddog dan sang.

Bellach, mae’r Ymddiriedolaeth wedi rhoi cefnogaeth ariannol i nifer o elusennau yn lleol ac yn genedlaethol – dros £77,000. Yn eu mysg y mae Cymdeithas Clefyd y Siwgr Cymru, Uned Gofal Cancr y Fron, Llanelli, Sefydliad Paul Sartori, Sir Benfro, Canolfan Magi yn Abertawe, Cwn Tywys y Deillion, Cangen Llanelli o Gymdeithas Motor Neurone a llawer, llawer mwy.

Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw cydweithio’n flynyddol ag elusennau penodol ynghyd â chefnogi prosiectau ac achosion da sy’n cyflwyno cais achlysurol am gymorth, gan gynnwys cymdeithasau ac unigolion.

Mae’r ceisiadau oll yn cael eu hystyried yn ofalus a gellir eu cyflwyno trwy gydol y flwyddyn. Er mwyn gwybod sut i wneud cais naill ai ewch i’r dudalen gysylltu neu anfonwch lythyr at ..... (manylion isod)

Cyswllt

Ray Gravell and Friends Charitable Trust
Gwesty Parc Y Strade, Ffwrnes
Llanelli, Sir Gâr, SA15 4HA
Tel: 01554 758171
Fax: 01554 777974

Ymddiriedolwyr Anrhydeddus:

Mari Gravell, Albert Francis, Derek Quinnell, Phil Bennett OBE.

Rhif Elusen Gofrestredig:

1125149