Ray Gravell & Ffrindiau Ymddiriedolaeth Elusennol

Croeso i Ymddiriedolaeth Elusennol Ray Gravell a Ffrindiau

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth er cof am un o lysgenhadon gorau Cymru, ac mae’r mudiad yn cefnogi unigolion ac achosion da yng Ngorlleiwn Cymru a fyddant wedi bod yn agos ato Ray.

Roedd Ray yn gawr ym myd rygbi, wedi chwarae i’r Llewod, i Gymru, ac i’r Scarlets. ‘Roedd yn ddarlledwr, yn actor ac yn Gymro i’r carn ac yn ysbyrdoliaeth i gymaint o bobol er nad oedd yn ymwybodol cymaint ei ddylanwad. Roedd pawb yn ymserchu ynddo , hyd yn oed pobl nad oeddent wedi cwrdd ag ef erioed a phob Cymro a Chymraes yn uniaethu gydag eg yn ei falchder o’i hunaniaeth. Roedd yr emosiwn a deimlwyd yng Nghymru adeg ei farwolaeth, a’r golygfeydd bythgofiadwy yn ei angladd ar Barc y Stradey, yn dyst i gariad y genedl tuag at un o’i hoff feibion.

Bydd Ray ynh parhau i hyrwyddo Gorllewin Cymru neu “West Is Best” drwy waith yr Ymddiriedolaeth. Hoffe’r Ymddiriedolwyr wneud gwahaniaeth bositif drwy gydweithio ag elusennau penodol a phrosiectau sy’n helpu i adeiladu, datblygu, a chefnogi cymunedau’r Gorllewin.

Amcan yr Ymddiriedolwyr yw sicrhau bod brwdfrydedd, ysbryd, ac egni’r gwr hynod hwn yn parhau drwy waith yr Ymddiriedolaeth – gan amddiffyn ei gariad a’i ymrwymiad i’w fywyd teuluol, chwaraeon, cerddoriaeth, y celfyddydau, yr awyr agored, y cyfryngau, a’r Iaith Gymraeg.

Cyswllt

Ray Gravell and Friends Charitable Trust
Gwesty Parc Y Strade, Ffwrnes
Llanelli, Sir Gâr, SA15 4HA
Tel: 01554 758171
Fax: 01554 777974

Ymddiriedolwyr Anrhydeddus:

Mari Gravell, Albert Francis, Derek Quinnell, Phil Bennett OBE.

Rhif Elusen Gofrestredig:

1125149